Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 28 Mawrth 2019
Amser:
09.30 -
11.43
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Hefin David AC Suzy Davies AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Cafodd y Pwyllgor frîff ar y Bil.
3.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu o ran y Bil. Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol:
· Y cylch gorchwyl drafft ar gyfer craffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1;
· Cyhoeddi galwad agored am dystiolaeth ac ysgrifennu at randdeiliaid allweddol am dystiolaeth ysgrifenedig;
· Rhestr o dystion ar gyfer sesiynau tystiolaeth lafar; a
· Cynnal gweithgareddau ymgysylltu ehangach gyda Senedd Ieuenctid Cymru a gwahodd y ddau brif grŵp ymgyrchu (‘Sdim Curo Plant a Byddwch yn Rhesymol Cymru) i hwyluso grwpiau ffocws rhwng Aelodau ac oedolion.
4.1 Yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar yr ymateb drafft i'r ymgynghoriad. Bydd yr ymateb yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn ei ddyddiad cau, sef 12 Ebrill.